Melys ydyw cywair
Ein telynau glân,
Am fod oriau bywyd
Oll yn llawn o gân;
Nid oes gan un plentyn
Hawl i fod yn drist
Yn y fintai ffyddlon
Sydd yn dilyn Crist.
Hosanna! pêr Hosanna!
Dyrchafwn lawen lef:
Câr Iesu gân y galon lân,
Hosanna iddo ef!
Hosanna! pêr Hosanna!
Hosanna! pêr Hosanna!
Hosanna iddo ef!
Pan fo'r chwarae'n llawen
Yn yr heulwen iach,
Agos iawn yw'r Ceidwad
I bob plentyn bach;
Mae pob gwg yn cilio
Pan fydd ef gerllaw,
Ac mor hawdd yw cydio
Yn ei dyner law.
Gwasgwn yn agosach
Beunydd ato ef,
Ni chawn fyth well cwmni
Ar y ffordd i'r nef;
Ar ei wyneb annwyl
Erys gwên o hyd,
Ac mor hawdd yw caru
Cyfaill plant y byd.
David Rees Griffiths (Amanwy) 1882-1953Caneuon Amanwy 1956
Tôn [6565D+7686.776]: Amanwy |
Sweet is the tune
Of our holy harps,
Because the hours of life are
Are full of song;
No child has
The right to be sad
In the faithful troop
That are following Christ.
Hosanna! Sweet hosanna!
Let us raise a joyful cry:
Jesus loves the pure heart's song,
Hosanna unto him!
Hosanna! Sweet hosanna!
Hosanna! Sweet hosanna!
Hosanna unto him!
When playing joyfully
In the healthy sunshine,
Very near to the Saviour
Is every little child;
Every frown retreats
When he is at hand,
And so easy is taking hold
Of his tender hand.
Let us press nearer
Daily towards him,
We shall never have better company
On the way to heaven;
On his belover faace
A smile remains stlll,
And so easy is loving
The Friend of the children of the world.
tr. 2024 Richard B Gillion
|
|